Ardaloedd preswyl

Wrth i’r brif bibell agosáu at ardaloedd preswyl, mae’n ymledu i wasanaethu cymunedau llai, fel ffordd neu ystâd dai. Yna, mae’r bibell yn ymledu ymhellach i gyflenwi dŵr i bob eiddo unigol drwy bibell sy’n cael ei galw’n ‘bibell gyfathrebu’ (communication pipe). Mae’r pibell gyfathrebu yn dal i fod yn berchen i’r darparwr (Dŵr Cymru yng Nghymru) ac mae’r holl waith cynnal a chadw hyd at y stopfalf derfynol yn gyfrifoldeb i’r cwmni dŵr. 

Ar ôl y stopfalf derfynol a’r mesurydd dŵr, mae’r berchnogaeth yn cael ei throsglwyddo i berchennog yr adeilad. O’r pwynt hwn, mae’r bibell yn cael ei galw’n ‘bibell wasanaeth’ (service pipe), ac mae unrhyw waith cynnal a chadw ar y bibell hon yn gyfrifoldeb i berchennog yr adeilad.