Atal halogi

Mae sawl dull i leihau’r risg o halogi dŵr Categori 1, gan gynnwys gosod:

  • falf wrth-ddychwelyd sengl ar dapiau cymysgu i amddiffyn yn erbyn categori 2
  • falf wrth-ddychwelyd ddwbl ar dapiau bib clymog ar gyfer pibellau gardd (Categori 3)
  • bylchau aer (air gaps) i wahanu dŵr glân o ddŵr halogedig (Categori 4 a 5)

 

Mae bylchau aer yn ddull effeithiol o osgoi ôl-lifiad heb yr angen am ddyfeisiau mecanyddol. Mae maint y bwlch aer yn dibynnu ar ffactorau fel maint y tap, math o osodiad a chynnwys y dŵr. 

Mae Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 yn gosod gofynion clir i atal gwastraff, defnydd gormodol, camddefnyddio, halogi a mesur anghywir o ddŵr. Mae dulliau fel atal ôl-lifiad, falfiau wrth-ddychwelyd a bylchau aer yn hanfodol i gynnal ansawdd dŵr diogel yng Nghymru.