Casglu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd 

Gall y dull o gasglu dŵr glaw arbed cyfaint sylweddol o ddŵr prif gyflenwad i berchennog tŷ ac, ar yr un pryd, lleihau’r pwysau ar yr adnodd hwn.

Mae’r sestonau storio hyn yn cael eu gosod o dan y ddaear ac yn casglu dŵr o’r gorlifddraeniau. Mae maint cyfartalog seston dŵr o’r fath tua 5,000 litr. 

Mae’r system ailgylchu dŵr llwyd yn casglu dŵr gwastraff o faths, cawodydd a pheiriannau golchi. Fe’i defnyddir yn gyffredin i ‘fflysio’ toiledau, gan leihau’r defnydd o ddŵr y prif gyflenwad. 

Dyma enghraifft o system dŵr llwyd.