Categori hylif 1 

Dŵr yfed di-haint sy’n cael ei gyflenwi gan ddarparwr dŵr neu ddeiliad trwydded cyflenwi dŵr, sy’n cydymffurfio â’r gofynion a sy’n cael eu pennu gan reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991. Mae gan ddarparwyr dŵr, fel Dŵr Cymru, ddyletswydd i gyflenwi dŵr sy’n bodloni’r Rheoliadau Ansawdd Dŵr, gan sicrhau ei fod yn addas ar gyfer defnydd domestig neu gynhyrchu bwyd. O ganlyniad, pryd bynnag y bo’n ymarferol, dylid cael dŵr yfed yn uniongyrchol o brif bibell gyflenwi, heb ei storio cyn ei ddefnyddio. Enghraifft o ddŵr Categori 1 yng Nghymru yw dŵr sy’n cael ei gyflenwi yn uniongyrchol o brif gyflenwadau Dŵr Cymru. 

Mae Categori 1 yn gallu cael ei ddisgrifio fel dŵr glan, dŵr yfadwy, dŵr iachus a dŵr wedi ei drin, felly gwrandewch am y rhain pan fyddwch chi allan ar safle gwaith.