Categori hylif 2

Dŵr yng Nghategori 1 sydd wedi dioddef newid yn ei ansawdd esthetig oherwydd:

a) newid yn y tymheredd; neu

b) bresenoldeb sylweddau neu organeddau sy’n effeithio ar ei flas, arogl neu olwg, gan gynnwys dŵr mewn system ddosbarthu dŵr poeth

Mae dŵr Categori 2 yn cynnwys dŵr a fyddai’n cael ei ddosbarthu fel Categori 1 oni bai ei fod wedi newid mewn ffordd nad yw’n effeithio ar iechyd pobl. Enghreifftiau nodweddiadol o ddŵr Categori 2 mewn eiddo domestig yw: 

  • dŵr sydd wedi’i gynhesu mewn system dŵr poeth eilaidd
  • cymysgeddau o ddŵr Categori 1 a 2 sy’n cael eu gollwng o dapiau cymysgu neu gawodydd
  • dŵr sydd wedi’i feddalu gan broses adfywio halen cyffredin mewn systemau domestig

 

Enghreifftiau eraill o ddŵr Categori 2 yw cymysgu cyflenwadau dŵr oer a phoeth, systemau chwistrellu tân heb wrthrewydd (anti-freeze), a pheiriannau gwneud rhew.