Categori hylif 3

Dŵr sy’n peri perygl iechyd bach oherwydd crynodiad sylweddau gwenwynig isel, gan gynnwys unrhyw hylif sy’n cynnwys:

  • glycol ethylen, hydoddiant sylffad copr, neu ychwanegion cemegol tebyg
  • sodiwm hypochlorit (chlorin a diheintyddion cyffredin)

 

Nid yw hylifau yng Nghategori 3 yn addas i’w hyfed na’u defnyddio at ddibenion domestig. Enghreifftiau yw:

  • dŵr mewn cylchedau gwresogi cynradd mewn cartrefi (gyda neu heb ychwanegion)
  • dŵr mewn peiriannau golchi dillad ac offer golchi llestri domestig
  • poteli chwistrellu gwrtaith a ddefnyddir mewn gerddi domestig