Categori hylif 4
Hylif sy’n peri perygl iechyd sylweddol oherwydd presenoldeb sylweddau gwenwynig, gan gynnwys unrhyw hylif sy’n cynnwys:
- sylweddau carsinogenig neu blaladdwyr (gan gynnwys pryfleiddiaid a chwynladdwyr)
- organeddau amgylcheddol â goblygiadau iechyd
Mae hylifau yng Nghategori 4 yn cynnwys micro-organebau, bacteria, firysau, a pharasitiaid a all achosi afiechydon mewn pobl. Enghreifftiau yw:
- cylchedau cynradd a systemau gwres canolog mewn adeiladau sydd ddim yn gartrefi
- diwydiannau prosesu bwyd a cheginau masnachol
- gweithfeydd golchi ceir a datseimio
- systemau tân â phwysedd uchel
Y prif wahaniaeth rhwng categori 4 a 5 yw bod Categori 4 fel arfer yn achosi niwed i iechyd dros gyfnod hir (dyddiau neu fisoedd), tra gall Categori 5 achosi niwed ar ôl cyfnod byr o gyswllt.