Categori hylif 5
Hylif sy’n peri perygl iechyd difrifol, oherwydd crynodiadau uchel o organeddau pathogenig, sylweddau ymbelydrol neu sylweddau gwenwynig iawn, gan gynnwys unrhyw hylif sy’n cynnwys:
- deunydd carthion neu wastraff dynol
- gwastraff cigyddiaeth neu anifeiliaid
- pathogenau o unrhyw ffynhonnell arall
Mae Categori 5 yn cynnwys micro-organebau pathogenig fel Salmonela, Vibrio Cholera, a Campylobacter, sy’n gallu achosi afiechydon difrifol mewn pobl. Mae’r rhain yn bresennol mewn gwastraff organig fel tail, carthion a hylifau corfforol. Enghreifftiau o hylif Categori 5 yw:
- sinciau, wrinalau, toiledau a bidets
- unrhyw offer meddygol neu ddeintyddol gyda mewnlifiadau tanddwr
- labordai, cyfleusterau cigyddiaeth, a chyfarpar lladd-dai
- storfa ddŵr ar gyfer dibenion amaethyddol
Mae Categori 5 yn cynnwys hylifau mwy peryglus na’r rhai yng nghategori 4, oherwydd gall hyd yn oed cyswllt byr (o funudau i oriau) achosi niwed sylweddol i iechyd.