Categorïau hylif

Mae categori hylif yn golygu categori o hylif fel y disgrifir yn Atodlen 1 o Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, sy’n berthnasol i Gymru. Gall unrhyw ddŵr nad yw’n ddŵr yfed oer di-haint sy’n cael ei gyflenwi gan Dŵr Cymru gael ei ddosbarthu fel perygl posibl. Mae’r rheoliadau’n rhestru pum categori hylif, fel sy’n cael eu nodi ar y tudalennau nesaf.