Cyfarwyddiadau gwneuthurwr  

Pan fydd offer a chyfarpar yn cael eu gosod ar system ddŵr, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yw’r ddogfen allweddol ar gyfer cynnal gweithdrefnau profi a chomisiynu. Mae’n hanfodol bod y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu dilyn yn gywir yn ystod y broses osod a’r broses gomisiynu, gan sicrhau bod yr offer yn gweithio’n ddiogel ac yn perfformio i’w fanyleb uchaf. 

Dim ond y gwneuthurwr fydd yn gwybod y gweithdrefnau cywir sydd eu hangen i sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei osod a’i gomisiynu’n ddiogel ac yn unol â’r safonau a osodwyd ganddynt. Felly, mae’n hanfodol: 

  • darllen cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn ofalus cyn dechrau unrhyw waith; 
  • dilyn y gweithdrefnau yn y drefn gywir a nodir yn y llawlyfr;
  • sicrhau bod y cyfarwyddiadau’n cael eu trosglwyddo i’r cwsmer ar ôl cwblhau’r gwaith;
  • cofio bod methu â dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn gallu arwain at golli’r gwarant.