Cyflenwad preifat 

Yn ogystal â’r prif gyflenwad dŵr cyhoeddus, mae nifer o gartrefi a busnesau yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat. Gall y rhain ddod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys ffynhonnau naturiol, tyllau turio, ffynonellau dŵr daear (dyfrhaenau), afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr preifat. Er bod dŵr o’r ffynonellau hyn yn ymddangos yn lân, mae’n hanfodol ei drin i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w yfed. 

Mae Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) yn darparu cyngor technegol ar reoleiddio dŵr preifat, ond mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am fonitro a gorfodi Rheoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg, profi ansawdd dŵr yn rheolaidd, ac os oes angen, cynghori ar ddulliau trin dŵr i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau angenrheidiol ar gyfer dŵr yfed diogel.