Deunydd nodweddiadol ar gyfer pibellau dŵr oer domestig
Copr
- Ar gyfer: Prif bibell codi, dosbarthiad dŵr oer, cyflenwad i’r silindr dŵr poeth.
- Manteision: Gwydn, gwrth-ficrobaidd naturiol, gwrthsefyll cyrydiad.
- Anfanteision: Cost uchel, angen sodro ar gyfer uniadau (yn draddodiadol ond mae ffyrdd gwahanol i gysylltu copr megis ‘press fit’, ‘push fit’ a ‘compression’).
- Maint Nodweddiadol: 15mm, 22mm, 28mm.
Polyethylen Dwysedd Canolig (MDPE)
- Ar gyfer: Pibell gyfathrebu, pibell wasanaeth i’r eiddo.
- Manteision: Hyblyg, gwrthsefyll cyrydiad, cost isel.
- Anfanteision: Angen cysylltydd priodol ar gyfer trosglwyddo i gopr.
- Maint Nodweddiadol: 25mm, 32mm, 63mm.
Polyethylen Trawsgysylltiedig (PEX)
- Ar gyfer: Prif bibell codi, dosbarthiad dŵr oer.
- Manteision: Hyblyg, hawdd i’w osod, cost is na chopr.
- Anfanteision: Gall gael ei effeithio gan olau UV os caiff ei osod yn allanol.
- Maint Nodweddiadol: 15mm, 22mm, 28mm.