Dŵr caled 

Mae dŵr caled parhaol yn cynnwys calsiwm sylffad (sy’n cael ei ganfod mewn calchfaen). Nid yw caledwch y dŵr hwn yn gallu cael ei ddileu trwy ei ferwi. Mae glaw wedi disgyn i’r ddaear ac wedi treiddio trwy greigiau calchfaen, gan dod â sylffadau calsiwm hydawdd gydag ef. Nid yw’r math hwn o galedwch yn tueddu i achosi cen (scale) sylweddol mewn boeleri neu degelli, sy’n golygu bod llai o broblemau o ran tagfeydd neu leihad mewn effeithlonrwydd thermol. 

Mae dŵr caled dros dro yn cynnwys calsiwm carbonad. Mae modd tynnu’r caledwch hwn pan fydd y dŵr yn cael ei wresogi i 65°C. Wrth ei wresogi, mae’r CO₂ yn cael ei ddileu, gan achosi i’r calsiwm carbonad ffurfio calchgen (limescale), sef dyddodion sy’n gallu achosi rhwystrau mewn pibellau ac effeithlonrwydd is mewn systemau dŵr poeth.