Ffaith allweddol 

BS EN 806 – Manyleb ar gyfer gosodiadau y tu mewn i adeiladau sy’n cludo dŵr i’w yfed gan bobl yw Safon Brydeinig gymharol newydd a ddaeth i rym yn 2011. Mae’n cael ei rhannu’n bum rhan: 

  • argymhellion cyffredinol 
  • dylunio 
  • maint pibellau 
  • gosod 
  • gweithredu a chynnal a chadw 

 

Mae’r safon hon yn gysylltiedig ag ail Safon Brydeinig, sef BS EN 8558 – Canllaw i ddylunio, gosod, profi a chynnal a chadw gwasanaethau sy’n cyflenwi dŵr i’w ddefnyddio’n ddomestig o fewn adeiladau a’u tir.  Gyda’i gilydd, mae’r ddau gyhoeddiad hyn yn disodli’r hen Safon Brydeinig, BS 6700, sef dylunio, gosod, profi a chynnal a chadw gwasanaethau sy’n cyflenwi dŵr i’w ddefnyddio’n ddomestig o fewn adeiladau a’u tir.  Fodd bynnag, mae rhannau o BS 6700 sydd heb eu cynnwys yn BS EN 806 na BS EN 8558 yn parhau i fod mewn grym.