Maen Prawf 1.6

Manteision ac anfanteision systemau dŵr oer

 

Ffaith ddiddorol agoriadol

Mae’r math o dir y mae dŵr glaw yn cwympo arno ac yn hidlo trwyddo yn dylanwadu’n uniongyrchol ar natur y dŵr sydd ar gael i ddefnyddwyr. Mae dŵr yn gallu casglu mwynau wrth iddo dreiddio trwy’r ddaear, a dyma sy’n pennu a yw’n ddŵr caled neu feddal.

Mae’r raddfa pH yn dangos a yw dŵr yn asidig neu’n alcalïaidd (potensial hydrogen). Os yw gwerth y pH yn is na 7, bydd y dŵr yn asidig ac yn gallu ymosod ar waith pibellau.