Gwasgedd a chyfradd llif 

Mae gwasgedd yn cyfeirio at y grym sy’n gyrru llif y dŵr. Fel arfer, mewn sefyllfaoedd domestig, mae archwiliad gweledol yn ddigonol, ond wrth osod offer penodol, mae angen darlleniad mwy manwl gywir. Mae hyn yn cynnwys meddalyddion dŵr, boeleri cyfunol, silindrau heb eu hawyru (unvented), neu a yw’r gwaith ar y pibellau’n cael ei newid yn sylweddol. 

Gellir cynhyrchu gwasgedd mewn systemau plymio trwy ddau brif ddull: 

  • Defnyddio pwmp (gan gynnwys dŵr y prif gyflenwad, sydd hefyd yn ddŵr wedi’i bwmpio) 
  • Trwy bwysau’r dŵr ei hun – sef yr uchder statig (head), lle mae pwysau’n cael ei greu gan bwysau’r dŵr uwchben y pwynt defnydd

 

Mae cyfradd llif yn cyfeirio at faint o ddŵr sy’n llifo i osodiad, ac mae’n cael ei fesur mewn litrau y funud. Er enghraifft, os yw’r gyfradd llif yn isel, bydd yn cymryd mwy o amser i lenwi’r bath. 

Fel arfer, mewn sefyllfaoedd domestig, mae archwiliad gweledol yn ddigonol, ond gall y gyfradd llif gael ei fesur yn fanwl gan ddefnyddio cwpan llif neu gwpan weir. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth sefydlu boeler cyfunol neu fonitro silindr di-fent (unvented).