Gwastraff dŵr

O fewn y rheoliadau dŵr, mae adrannau 3(2) a 3(3) yn cyfeirio at wastraff, camddefnyddio, defnydd gormodol, halogi neu fesur anghywir o ddŵr sy’n cael ei gyflenwi gan y darparwr dŵr. Gallwch ddod o hyd i ganllaw ar ystyr a diffiniad y rhain yn adran R1.1.2 o’r Rheoliadau Dŵr, fel a ganlyn: 

Mae gwastraff dŵr yn cael ei ddiffinio fel dŵr sy’n cael ei gyflenwi gan ddarparwr dŵr sy’n cael ei adael i redeg yn wastraff oherwydd: 

  • gosodiad diffygiol 
  • diffyg cynnal a chadw cyfarpar 
  • ffitiad sy’n gollwng neu dap sy’n diferu 
  • unrhyw fai arall sy’n caniatáu i ddŵr wastraffu heb reolaeth