Maint y pibellau mewn system dŵr oer anuniongyrchol 

Maint y pibellau mewn system dŵr oer anuniongyrchol: 

  • 15mm yw’r maint safonol ar gyfer y prif bibell godi (rising main) i’r eiddo, ac mae’n ddigonol i’r rhan fwyaf o anheddau 3-4 llofft. 
  • Dylai’r sinc yn y gegin gael ei gyflenwi’n uniongyrchol o’r prif gyflenwad gyda phibell 15mm. 
  • Gall y seston storio gael ei chyflenwi â phibell 15mm hefyd. 
  • Pibell ddosbarthu 22mm o leiaf fydd yn cludo dŵr oer o’r seston i ffitiadau fel basn golchi dwylo, WC a bath. 
  • Oherwydd diffyg gwasgedd mewn system anuniongyrchol, dylai’r bath gael ei gyflenwi gyda phibell 22mm i sicrhau llif digonol, tra gall yr holl osodiadau eraill ddefnyddio 15mm. 
  • Mae angen pibell 28mm (22mm o leiaf) i gyflenwi’r silindr storio dŵr poeth.