Mesurydd dŵr

Mae’r rhan fwyaf o osodiadau newydd yn cynnwys mesurydd dŵr, a allai fod wedi’i leoli yn fewnol neu’n allanol. Fel arfer, mae mesuryddion dŵr allanol wedi’u gosod wrth y ffin i atal unrhyw ymyrraeth anghyfreithlon â’r mesurydd, ac i ganiatáu i ddarparwyr dŵr gymryd darlleniadau heb orfod cael mynediad i’r eiddo. 

Pan mae mesurydd dŵr yn cael ei osod y tu mewn i adeilad (fel arfer mewn gosodiadau hŷn), rhaid iddo fod rhwng dwy stopfalf gyda falf ddraenio wedi’i gosod ar ôl y mesurydd ond cyn yr ail stopfalf. Dylai’r mesurydd hefyd gael ei gysylltu i system fondio trydanol parhaol i sicrhau diogelwch trydanol.