Oeddech chi’n gwybod… y gwahaniaeth rhwng gwasgedd gwrthdro a seiffonedd ôl-lifiad?
Gwasgedd gwrthdro: Mae hyn yn digwydd pan fydd y gwasgedd dŵr i lawr yr afon yn fwy na’r gwasgedd dŵr i fyny’r afon neu’r gwasgedd cyflenwad yn y brif bibell gyflenwi dŵr gan y darparwr neu o fewn cyflenwad dŵr yfed y defnyddiwr. Gall gwasgedd gwrthdro ddigwydd oherwydd:
- colli gwasgedd i fyny’r afon yn sydyn, er enghraifft, pe bai prif bibell gyflenwi dŵr y darparwr yn byrstio
- cynnydd yn y gwasgedd i lawr yr afon oherwydd defnydd o bympiau neu ehangu systemau dŵr poeth
- cyfuniad o’r ddau amod uchod
Seiffonedd ôl-lifiad: Mae hyn yn digwydd pan fydd gwasgedd negyddol yn creu gwactod neu ran o wactod yn y prif gyflenwad dŵr oer gan y darparwr. Gall hyn gael ei gymharu â’r ffordd y mae hylif yn cael ei sugno drwy welltyn. Os bydd colli gwasgedd sydyn yn y prif gyflenwad tra bod allfa o dan lefel dŵr yn llifo, gall dŵr gael ei dynnu’n ôl i fyny drwy’r allfa honno ac i lawr i mewn i brif bibell y darparwr dŵr.