Oeddech chi’n gwybod? 

Mae’r term Saesneg ‘trunk main’ (prif bibell) yn dyddio’n ôl i gyfnod pan oedd y prif gyflenwadau dŵr yn cael eu hadeiladu o foncyffion coed wedi’u gwagio! Ers hynny, mae llawer wedi newid—cafodd plwm, alcethen ddu a dur eu defnyddio fel deunyddiau ar gyfer pibellau dŵr y prif gyflenwad. Heddiw, rydyn ni’n defnyddio MDPE (polyethylen dwysedd canolig), sydd wedi’i liwio’n las er mwyn ei wneud yn hawdd i’w adnabod fel pibell dŵr oer!