Pibellau

Mae diamedr pibellau mawr sy’n gwasanaethu dinas gyda phoblogaeth o tua 500,000 o bobl fel arfer rhwng 1.05m ac 1.20m. I ardal gyda 200,000 o bobl, gall y maint leihau i 0.75m, ac yna mae cymunedau llai gyda 5,000 i 20,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu gan bibellau rhwng 0.2m a 0.3m mewn diamedr. 

Pan fydd adeilad newydd angen cysylltiad newydd i’r system ddŵr, mae pibell MDPE (polyethylen dwysedd canolig) 25mm yn cael ei defnyddio fel arfer gyda chysylltiad priodol. Ond, yng Nghymru, mae’r diamedr gofynnol ar gyfer llawer o gartrefi newydd wedi cynyddu i 32mm, oherwydd y rheoliadau newydd sy’n mynnu gosod systemau chwistrellu tân mewn eiddo newydd. Er mwyn darparu cyflenwad digonol i’r eiddo ac i’r system chwistrellu tân, mae 32mm yn cael ei ffafrio erbyn hyn fel y maint lleiaf sy’n cael ei argymell.