Mathau o bibellau yn ôl eu defnydd yn y system dŵr oer

Prif bibell gyflenwad (Trunk Main)

Disgrifiad: Y prif gyflenwad dŵr sy’n cael ei gludo mewn prif bibellau mawr o’r gweithfeydd trin dŵr i ardaloedd preswyl. 

Deunydd Nodweddiadol: Haearn bwrw, haearn hydwyth, plastig cryfder uchel (PVC-U neu PE). 

Maint: Gall amrywio rhwng 75mm a 1.2m yn dibynnu ar faint y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.