Rheoliadau Cyflenwad Dŵr

Mae’r dŵr a ddarperir trwy’r prif gyflenwad yn destun rheoleiddio llym. Mae Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 yn sicrhau bod systemau plymio domestig a masnachol yn cydymffurfio â safonau penodol i osgoi llygredd, gwastraff a chamddefnyddio dŵr. Mae Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) yn goruchwylio ansawdd dŵr prif gyflenwad i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio, tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod tynnu dŵr o afonydd a chyrsiau dŵr yn gynaliadwy. 

Yn ogystal â’r prif gyflenwad, mae nifer o gartrefi a busnesau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat fel ffynhonnau, tyllau turio, a dŵr wyneb o afonydd neu lynnoedd. Er nad yw Dŵr Cymru’n gyfrifol am y cyflenwadau hyn, mae’n rhaid iddyn nhw barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat, sydd dan oruchwyliaeth yr awdurdodau lleol gyda chyngor technegol gan Arolygiaeth Dŵr Yfed. 

Mae deall y systemau hyn yn hanfodol i blymwyr, gan fod dyletswydd arnyn nhw i sicrhau bod gosodiadau’n cael eu gwneud yn unol â’r safonau rheoleiddiol. Bydd yr adran hon yn ymchwilio’n fanwl i’r ddau fath o gyflenwad dŵr, gan archwilio’r dulliau dosbarthu, y manteision a’r cyfyngiadau, a’r gofynion cyfreithiol sy’n eu rheoli.