System dŵr oer anuniongyrchol

Mewn system dŵr oer anuniongyrchol, dim ond y sinc yn y gegin a’r seston storio dŵr oer sy’n cael eu cyflenwi’n uniongyrchol o’r prif gyflenwad. Mae hyn yn golygu mai dim ond y tap yn y gegin sydd â dŵr yfed Categori 1, ac mae’r holl allfeydd eraill yn cael eu cyflenwi’n anuniongyrchol drwy’r seston storio dŵr oer. 

Oherwydd bod y dŵr yn cael ei storio, mae hyn yn newid ei gategori hylif i Gategori 2. Er mwyn sicrhau cyflenwad digonol i’r system dŵr oer ac i’r system dŵr poeth, mae angen seston storio gyda 230 litr o leiaf. 

Mae’r system hon yn cael ei defnyddio mewn ardaloedd lle mae’r gwasgedd dŵr o’r prif gyflenwad yn isel ac ni fyddai’n ddigonol i gyflenwi’r eiddo yn llawn. Mae hefyd yn cynnig cyflenwad wrth gefn rhag ofn y bydd problem gyda’r prif gyflenwad, fel toriad oherwydd prif bibell sydd wedi byrstio neu waith cynnal a chadw gan Dŵr Cymru. 

I wella’r gwasgedd yn y system hon, dylai’r seston storio gael ei gosod mor uchel â phosibl. Fel arfer, am bob metr o uchder, mae 0.1 bar o wasgedd yn cael ei gynhyrchu.