System dŵr oer uniongyrchol

Mae system dŵr oer uniongyrchol yn system lle mae pob tap ac allfa dŵr oer yn cael eu cyflenwi’n uniongyrchol o’r prif gyflenwad (h.y. dŵr yfed categori 1 sy’n cael ei gyflenwi gan Dŵr Cymru). Oherwydd hyn, mae gan bob tap yn yr eiddo fynediad at ddŵr yfed diogel. 

Yr unig gyfleuster storio dŵr oer y bydd ei angen mewn eiddo gyda’r system hon yw seston storio 150 litr i gyflenwi dŵr oer i’r silindr dŵr poeth. Fodd bynnag, nid yw pob eiddo yn cynnwys seston storio o’r fath, gan nad yw’n angenrheidiol pan fo system boeler cyfunol, silindr di-fent neu wresogydd dŵr uniongyrchol wedi’i osod. 

 

Mae’r system dŵr oer uniongyrchol yn cael ei defnyddio’n aml mewn anheddau domestig gan ei bod yn economaidd i’w gosod ac yn cynnig gwasgedd da gan y prif gyflenwad, sy’n golygu nad oes angen seston storio fawr.