Maen Prawf 1.3

Y brif broses ar gyfer trin dŵr a’r system dosbarthu dŵr arferol o’r prif gyflenwad o’r gwaith trin i’r eiddo

 

Trin a dosbarthu dŵr

Er bod dŵr yn adnodd naturiol hanfodol, nid yw’r dŵr sy’n tarddu o afonydd, cronfeydd dŵr neu ddyfrhaenau bob amser yn ddiogel i’w yfed. Mae’n cynnwys ystod eang o sylweddau, fel llwch, bacteria, a mwynau tawdd, a all effeithio ar ei ansawdd ac, mewn rhai achosion, ei wneud yn anniogel i’w ddefnyddio mewn cartrefi a busnesau. Er mwyn sicrhau bod y dŵr sy’n cyrraedd y tapiau’n lân, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â rheoliadau sy’n ywmneud ag ansawdd dŵr yfed, mae’n rhaid iddo fynd trwy broses drylwyr o drin a dosbarthu. Mae Dŵr Cymru, sy’n gyfrifol am gyflenwi dŵr i’r rhan fwyaf o Gymru, yn gweithredu dulliau trin dŵr modern i gynnal safonau uchel o ansawdd dŵr. 

Mae pob awdurdod dŵr yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am drin dŵr yn defnyddio prosesau trin tebyg, ond mae’r dull penodol sy’n cael ei ddefnyddio yn dibynnu ar darddiad y dŵr crai a’r amgylchedd lleol. Felly, mae triniaeth dŵr o ffynonellau dŵr wyneb fel afonydd a chronfeydd dŵr yn aml yn fwy cymhleth na dŵr daear, sy’n cael ei hidlo’n naturiol trwy greigiau a phridd.