Y bibell gyfathrebu

Mae’r bibell gyfathrebu (neu’r bibell gyswllt) yn cael ei gosod a’i chynnal gan y darparwr dŵr ac maen nhw’n gyfrifol am ei chynnal a’i chadw. Mae’r bibell hon yn cael ei chysylltu â’r prif gyflenwad trwy gysylltiad amgarn (ferrule connection), sy’n cysylltu â stopfalf ffin (boundary stop valve). Defnyddir y term “ffin” gan fod y falf hon fel arfer wedi’i lleoli ar ffin yr eiddo neu’r adeilad. 

Ar ôl y stopfalf allanol, mae’r bibell yn cael ei hadnabod fel pibell wasanaeth. Mae hyn yn golygu y daw’r cyfrifoldeb am y bibell hon o’r stopfalf allanol i mewn i’r eiddo i berchennog yr adeilad.