Y bibell wasanaeth

Mae rhai eiddo yn cynnwys stopfalf allanol ar y bibell wasanaeth, ond yn gyffredinol, mae’r dull safonol yn ei gosod dan y ddaear ar ddyfnder rhwng 750mm a 1350mm. Dylai’r bibell hon gael ei gosod drwy ddwythell wasanaeth (service duct) sydd wedi’i selio ar y ddau ben i atal llygredd a dŵr ffo rhag mynd i mewn. Mae diamedr y dwythell wasanaeth yn ddibynnol ar faint y bibell, gyda’r arfer gorau yng Nghymru yn nodi x3 diamedr y brif bibell (e.e. ar gyfer pibell 32mm, dylid defnyddio dwythell wasanaeth 96mm: 32mm × 3 = 96mm). 

Rhaid i’r bibell wasanaeth ddod i ben tu mewn i’r adeilad gyda stopfalf sgriwio i lawr (screw down type stop valve) yn unol â’r Rheoliadau Dŵr. Dylai falf ddraenio fod wedi’i gosod ar unwaith ar ôl y stopfalf i ganiatáu ar gyfer draenio’r system os oes angen gwaith cynnal a chadw.