Maen Prawf 1.4

Y gwasanaeth prif gyflenwad dŵr i’r eiddo a’r mannau ynysu

 

Mae dod â chyflenwad dŵr oer o’r prif gyflenwad i mewn i adeilad yn broses sy’n cynnwys y darparwr dŵr (Dŵr Cymru) a’r plymwr. Yn ystod y broses hon, mae’r prif gyflenwad dŵr yn newid o brif bibell (trunk main) i bibell gyfathrebu (communication pipe), ac yn y pen draw, y bibell wasanaeth (supply pipe) cyn iddi droi’n brif bibell godi (rising main) o fewn adeilad.