Y gylchred ddŵr

Mae’r gylchred ddŵr yn daith ddiddiwedd y mae dŵr yn ei gwneud wrth gylchredeg o’r cymylau i’r tir, i’r cefnfor ac yn ôl eto. Dyma ffordd natur o lanhau ac ailgylchu’r holl ddŵr ar y Ddaear – a dyma’r dŵr croyw sy’n gwneud bywyd ar y blaned yn bosibl.

Ac oherwydd y ffordd y mae’r gylchred yn gweithio, sy’n cael ei galw’n ‘system gaeedig’, nid oes unrhyw ddŵr newydd yn cael ei greu ar y blaned. Y gwir yw, rydyn ni’n yfed yr un dŵr ag yr oedd y deinosoriaid yn ei yfed!