Y prif bibell godi

Ar ôl i’r brif bibell newid o MDPE i’r tu mewn i’r adeilad, fel arfer mae copr gradd R250 yn cael ei ddefnyddio i gysylltu’r stopfalf i’r MDPE. O’r stopfalf ymlaen, mae’r bibell yn cael ei hadnabod fel prif bibell godi (rising main), gan ei bod yn cyflenwi’r system dŵr oer mewnol o’r pwynt mynediad i’r pwyntiau tapio yn yr adeilad.