Y Rheoliadau Adeiladu 

‘Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn cael eu gwneud o dan bwerau a ddarperir yn Neddf Adeiladu 1984, ac maent yn berthnasol yng Nghymru. Y fersiwn gyfredol o’r Rheoliadau yw ‘Rheoliadau Adeiladu 2010’ (fel y’u diwygiwyd) ac mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu gydymffurfio â nhw. Maen nhw’n bodoli i sicrhau iechyd a diogelwch pobl ym mhob math o adeiladau ac yn eu cyffiniau (h.y. domestig, masnachol a diwydiannol). Maen nhw hefyd yn darparu ar gyfer arbed dŵr ac ynni, cael mynediad i adeiladau a’u defnyddio, diogelwch, a mynediad at sianeli cyfathrebu electronig cyflym iawn.’ 

https://www.llyw.cymru/canllaw-ar-rheoliadau-adeiladu  

Rheoliadau Adeiladu perthnasol i ddŵr oer – Dogfen Gymeradwy G (gan gofio bod nifer o’r rheoliadau eraill yn berthnasol hefyd e.e. Dogfen Gymeradwy A pan yn tyllu a chreu bylchau mewn dystiau er mwyn gosod pibellau, Dogfen Gymeradwy H pan yn cael gwared o wastraff (Categori 5) ac yn y blaen.