Maen Prawf 2.1
Egwyddorion gweithio systemau dŵr oer, gosod, cysylltu a gweithredu cydrannau
Mae egwyddorion gweithio systemau dŵr oer, lleoli, gosod, cysylltu a gweithredu cydrannau yn dibynnu ar fath yr adeilad, y cydrannau sydd i’w gosod, a’r defnydd fydd yn cael ei gwneud ohoni. Mae tapiau, falfiau a ffitiadau yn hanfodol yn y diwydiant plymio er mwyn sicrhau bod dyfeisiau a systemau yn gweithredu’n effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel. Mae pob system blymio, fel system dŵr oer, yn gofyn am osod math o falf, tap neu ffitiad allfa. Mae’n hanfodol dewis y gydran gywir ar gyfer y diben a fwriedir, gan fod penderfyniadau amhriodol yn gallu effeithio’n andwyol ar systemau dŵr oer, yn enwedig o ystyried ein cyfrifoldeb i ddiogelu dŵr Categori 1.