Falf blwg sfferig 

Math arall o falf ynysu yw falf blwg sfferig (spherical plug valve), sy’n cael ei ddefnyddio i ynysu ffitinau terfynol fel falfiau fflôt mewn sestonau storio dŵr oer, tapiau a dyfeisiau unigol. Mae’r falf hon yn troi pêl fewnol trwy 90° i agor neu gau’r llif. Mae’n gallu cael ei phrynu gyda handlen liw i ddangos y math o system. Handlen las sy’n dynodi system dŵr oer. Fel arfer, mae’r math hwn o falf yn cael ei alw’n falf lifer (lever valve) hefyd.