Falf ddraenio
Mae falfiau draenio yn falfiau sydd i’w cael ym mhwyntiau isel y system, ac yn cael eu defnyddio ym mhob math o systemau, nid systemau dŵr oer yn unig. Eu pwrpas yw galluogi draenio cynnwys y system pan fyddan nhw’n cael eu hagor.
Mae ystod eang o falfiau draenio ar gael ar gyfer gwahanol osodiadau, gan gynnwys:
- falf gyda neu heb gland pacin
- falf gydag edau gwryw i ganiatáu cysylltiad â phibellau dur carbon isel a ffitiadau cysylltiedig
- y math mwyaf cyffredin sydd i’w weld ar systemau, sef falf gyda phen pigyn (spigot end) i alluogi cysylltu â ffitiadau cywasgu neu ffitiadau sodrog
Yn unol â’r Rheoliadau Dŵr, mae’n ofynnol lleoli’r falfiau mewn modd priodol. Mae’r rheoliadau’n nodi’n benodol:
“Ni ddylid gosod falf ddraenio o dan y ddaear nac mewn unrhyw safle a allai beri i’r falf gael ei boddi mewn dŵr.”
