Falf ynysu (Isolation valve)
Mae falfiau ynysu yn gydrannau hanfodol sydd wedi’u cynllunio i allu cau llif y dŵr yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Maen nhw’n gallu ynysu system gyfan neu un ddyfais benodol (ynysu lleol). Ceir gwahanol fathau o falfiau ynysu yn dibynnu ar y defnydd a fwriadwyd ar eu cyfer:
- Falfiau ynysu ar gyfer systemau dŵr gwasgedd uchel e.e. stopfalf.
- Falfiau ynysu ar gyfer systemau dŵr gwasgedd isel e.e. falf gât llawn.
- Falfiau ynysu aml-bwrpas. Yn addas ar gyfer systemau gwasgedd uchel ac isel.
- Falfiau draenio. Yn cael eu defnyddio i wagio cynnwys system.
Mae stopfalfiau wedi’u cynhyrchu yn unol â Safonau Prydeinig BS 5433 neu BS 1010, ac maen nhw’n addas ar gyfer systemau gwasgedd uchel. Ni ddylen nhw gael eu defnyddio mewn systemau gwasgedd isel gan fod eu dyluniad mewnol yn cyfyngu ar lif y dŵr. Mae’r stopfalf wedi’i gynhyrchu gyda chorff pres, gêr pen gyda gwerthyd troi (rising spindle), chwarren pacio a phlât siwmper (jumper plate) y gellir ei ail-wasieru. Dylid eu gosod yn unol â’r saeth cyfeiriadol sydd wedi’i stampio ar y corff.