Ffitinau Terfynol (Terminal Fittings) – Tapiau

Gelwir tapiau’n ffitinau terfynol gan eu bod yn rhoi mynediad i’r defnyddiwr at y dŵr. Ceir gwahanol fathau o dapiau, pob un â swyddogaeth benodol. 

 

  • Tapiau piler (Pillar taps): Yn darparu dŵr oer a dŵr poeth yn unigol, ar gael mewn meintiau ½” neu ¾”, gyda’r maint mwyaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer baths. 
  • Tapiau bib (Bib taps): Wedi’u gosod ar sinciau glanhau neu sinciau Belfast ar wal. 
  • Tapiau bib cysylltu peiben ddŵr (Union bib taps): Wedi’u cynllunio ar gyfer defnydd allanol ac yn cynnwys cysylltiad ar gyfer pibell gardd. 
  • Tapiau cymysgu deulif (Bi-flow mixer taps): Mae’r dŵr oer a’r dŵr poeth yn aros ar wahân y tu mewn i’r corff hyd at y pwynt all-lif, gan leihau’r risg o ôl-lifiad. 
  • Gwir dapiau cymysgu (True mixer taps): Mae’r dŵr oer a’r dŵr poeth yn cymysgu y tu mewn i gorff y tap. 
  • Tapiau piler gwddf uchel (High Necked Pillar Taps): Yn cael eu defnyddio ar sinciau cegin ac yn darparu bwlch aer AUK3 ar gyfer diogelwch rhag ôl-lifiad.