Mae stopfalfiau wedi’u cynhyrchu yn unol â Safonau Prydeinig BS 5433 neu BS 1010, ac maen nhw’n addas ar gyfer systemau gwasgedd uchel. Ni ddylen nhw gael eu defnyddio mewn systemau gwasgedd isel gan fod eu dyluniad mewnol yn cyfyngu ar lif y dŵr. Mae’r stopfalf wedi’i gynhyrchu gyda chorff pres, gêr pen gyda gwerthyd troi (rising spindle), chwarren pacin a phlât naid (jumper plate) y gellir ei ailwasieru. Dylid eu gosod yn unol â’r saeth cyfeiriadol sydd wedi’i stampio ar y corff.
Mae’r dulliau cysylltu ar gyfer stopfalfiau yn amrywio, ond yn gyffredinol mae cysylltiadau cywasgu’n cael eu defnyddio mewn eiddo domestig gan eu bod yn cynnig trosiad esmwyth o bibell MDPE (pibell wasanaeth) i gopr (prif bibell godi). Mae stopfalfiau hefyd ar gael gyda chysylltiadau gwthio (push-fit) ar gyfer mathau gwahanol o bibellau.
