Egwyddorion allweddol 

Yn ogystal, dyma rai awgrymiadau allweddol i’w hystyried: 

  • Cadwch bibellau agored yn daclus ac yn drefnus—mae gosodiad taclus nid yn unig yn edrych yn well ond hefyd yn hwyluso cynnal a chadw yn y dyfodol. 
  • Defnyddio plygiadau peiriannol yn hytrach na ffitiadau pan fo’n bosibl—mae hyn yn helpu i gynnal cyfraddau llif dŵr yn y system. 
  • Dilyn y pellteroedd clampio sy’n cael eu hargymell ar gyfer copr a phlastig i atal dirgryniadau a sicrhau sefydlogrwydd y bibellwaith. 
  • Sicrhau bod pibellau wedi’u gosod yn unol â’r Rheoliadau Dŵr os cânt eu gosod mewn lloriau neu waliau. 
  • Diogelu dŵr oer rhag unrhyw boethi gormodol—mae hyn yn bwysig er mwyn atal twf Legionella, felly dylai hyn gael ei ystyried wrth osod pibellau dŵr poeth yn agos at bibellau dŵr oer. 
  • Diogelu dŵr oer rhag rhewi trwy inswleiddio’r bibellwaith yn briodol, yn enwedig mewn mannau oer fel llofftydd, garejis a waliau allanol. 

 

Mae sicrhau bod systemau dŵr oer yn cael eu gosod yn unol â’r rheoliadau a’r safonau perthnasol yn hanfodol i sicrhau system ddŵr effeithlon, ddiogel ac o ansawdd uchel.