Maen Prawf 3.4

Sut mae gosod systemau dŵr oer

 

Mae gosod systemau dŵr oer yn ddomestig yn gallu amrywio’n sylweddol o un swydd i’r llall, gyda nifer o gydrannau gwahanol i’w gosod a phwysigrwydd ystyried addasrwydd, ymarferoldeb a diogelwch y system neu’r gydran sy’n cael ei gosod. Wrth osod systemau dŵr oer yn benodol, rhaid bod yn ofalus iawn i sicrhau nad yw’r gwaith gosod yn peri unrhyw risg o halogi nac unrhyw faterion allweddol eraill sy’n cael eu nodi yn y Rheoliadau Dŵr fel mesur anghywir o ddŵr, defnydd gormodol, camddefnydd a gwastraff.