Ystyriaethau cyffredinol

Mae dŵr oer yn cyflenwi’r mwyafrif o osodiadau mewn eiddo domestig, gan gynnwys tapiau allanol, toiledau, sinciau cegin a pheiriannau golchi dillad, ymhlith llawer o osodiadau eraill. Oherwydd hyn, mae dulliau, technegau ac ystyriaethau gosod yn amrywio yn dibynnu ar y cyd-destun. Mewn llawer o achosion, ni fydd dwy swydd byth yr un fath! Mae hyn yn golygu bod y dull gosod yn dibynnu ar yr offeryn/cynnyrch, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, ffabrig yr adeilad, estheteg, ansawdd a llawer o ffactorau eraill. 

Fodd bynnag, mae rhai ystyriaethau sy’n gyffredinol i bob swydd gosod.

Mae’r arferion trosglwyddadwy hyn yn cynnwys: 

  • Dilyn y Canllaw Rheoliadau Dŵr, Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu ar bob adeg. 
  • Dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth osod unrhyw gydran. 
  • Sicrhau bod y gwaith gosod o ansawdd uchel trwy brofi a chomisiynu’r system, ac yna ei drosglwyddo i’r cwsmer.