Archwiliad
Dylai’r archwiliad gynnwys y canlynol:
- Chwilio am unrhyw bennau agored ar bibellau neu ffitiadau, gan sicrhau bod pob rhan o’r system wedi’i selio’n briodol.
- Gwirio uniadau (joints) a ffitinau: dylai pob uniad sodrog (soldered), cywasgol (compression), gwthio (push-fit) a gwasgedig (press-fit) gael eu harchwilio i sicrhau eu bod wedi’u gosod yn gywir ac yn ddiogel, heb arwyddion o fethiant neu wendid.
- Gwirio clipiau pibell: rhaid cadarnhau bod clipiau wedi’u gosod ar bellteroedd priodol i ddarparu cefnogaeth ddigonol, gan atal symudiad neu dirgryniad.
- Ar gyfer systemau dŵr poeth a gwres canolog, dylai sylw penodol gael ei roi i elfennau diogelwch megis falfiau gorlif a falfiau diogelwch tymheredd a gwasgedd, gan sicrhau eu bod wedi’u gosod a’u sefydlu’n gywir cyn dechrau profion.