Maen Prawf 4.1

Archwiliad gweledol o system dŵr oer

 

Pam cynnal archwiliad?

Cyn cynnal prawf gwasgedd ar unrhyw system blymio neu wresogi, mae’n hanfodol cynnal archwiliad gweledol trylwyr i sicrhau bod y gwaith gosod yn gyflawn ac yn ddiogel. Mae’r cam yma yn berthnasol i systemau dŵr oer, dŵr poeth a gwres canolog. 

Mae archwiliad yn hollbwysig cyn cynnal prawf cadernid (robustness test) neu prawf i wirio bod y system yn ddwrglos. Mae’n sicrhau bod y system wedi’i gosod yn unol â gofynion Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, safonau BS EN 806 a BS 8558, ac yn bodloni safonau priodol y Rheoliadau Adeiladu cyn unrhyw weithdrefn brofi ffurfiol.