Maen Prawf 4.2
Prawf cadernid yn unol â gofynion y diwydiant o ran cydrannau a phibellau systemau dŵr oer
Mae’n ofynnol i brofion systemau dŵr oer gydymffurfio â BS EN 806, ac mae canllawiau a rheoliadau penodol ar sut i gynnal profion gwasgedd yn gywir wedi eu nodi ar dudalennau 4.17 a 4.18 o’r Canllaw Rheoliadau Dŵr. O fewn y canllaw hwn, mae’r canlynol yn cael eu nodi:
G12.1 – Dylai’r gosodiad cyfan gael ei brofi’n hydrostatig ar ôl ei gwblhau, trwy ddarparu prawf gwasgedd mewnol sy’n 1.5 gwaith uchafswm y gwasgedd gweithredu ar gyfer y gosodiad neu’r rhan berthnasol ohono.
Yna, mae’r canllaw yn parhau gyda’r dyfyniad canlynol:
G12.2 – Ar gyfer systemau nad ydynt yn cynnwys pibellau plastig (h.y. defnyddiau pibell anhyblyg megis copr, dur di-staen ac ati), bydd y gofyniad yn cael ei fodloni os:
a. Mae’r system gyfan yn cael ei ddarostwng i’r gwasgedd prawf yn fewnol trwy bwmpio, ar ôl hynny caiff y prawf ei barhau heb bwmpio pellach.
b. Nid yw’r gwasgedd yn y system yn gostwng o dan y gwasgedd prawf dros gyfnod o awr ac nid oes unrhyw ollyngiad gweledol; yn unol â Chymal 3.1.12.3.3 o BS 6700:1997.
Dyma’r canllawiau ar hyn o bryd, ond mae’r argymhellion yn nodi’r canlynol:
R12.1 Dylai prawf terfynol gael ei gynnal ar systemau pibellau tanddaearol ac uwchben y ddaear ar ôl cwblhau’r gosodiad ac ar ôl i’r holl waith adeiladu gael ei gwblhau. Mae’r prawf terfynol yn hanfodol, ond mae’n fuddiol profi pibellau sydd i’w claddu ar sail dros dro cyn eu gorchuddio. Ym mhob achos, dylid cywiro unrhyw ddiffygion sy’n cael eu datgelu o ganlyniad i brawf, ac yna cynnal ail brawf hyd nes bod y canlyniad yn foddhaol.
R12.2 Wrth brofi systemau pibellau anhyblyg, dylai’r holl allfeydd yn y gosodiad gael eu selio, a dylai unrhyw falfiau sy’n cael eu gweithredu gan fflôt gael eu capio neu eu hynysu. Dylai’r gwasgedd dŵr gael ei godi trwy bwmpio nes bod y gwasgedd mewnol ar y pwynt isaf yn y gosodiad 50% yn uwch na’r gwasgedd gweithredu arferol. Dylai’r gwasgedd hwn gael ei gynnal am awr heb bwmpio pellach.