Dyma’r mathau gwahanol o systemau dŵr poeth sydd mewn anheddau domestig yn gyffredinol.
Cliciwch ar yr elfennau yn y diagram i ddarganfod mwy amdanynt.
- Cyflenwad Dŵr Poeth
Cyflenwad Dŵr Poeth
System sy’n darparu dŵr wedi’i gynhesu i allfeydd domestig megis sinciau, basnau golchi dwylo, baddonau a chawodydd. Gall y cyflenwad ddod o system uniongyrchol sy’n cynhesu’r dŵr wrth ei ddefnyddio, neu system anuniongyrchol sy’n storio dŵr poeth mewn silindr. Mae’r system yn cael ei bweru gan ffynhonnell wres megis boeler, cynhesydd trydan neu system solar.
- System Ganolog
System Ganolog
System lle caiff dŵr poeth ei gyflenwi i bob offeryn ac allfa ddŵr poeth o fewn yr adeilad o un lleoliad canolog o fewn yr annedd. Caiff y dŵr poeth ei ddosbarthu o’r pwynt canolog hwn ac mae’n gwasanaethu fel system amlbwynt. Mae’r math hwn o system yn gyffredin iawn mewn anheddau domestig ac mae ganddo amrywiaeth o gynlluniau a chydrannau sy’n ffurfio gwahanol fathau o systemau dŵr poeth.
- System Unionsyth
System Unionsyth
Mae amrywiaeth o wahanol systemau a chynlluniau yn perthyn i’r categori hwn. Yr egwyddor sylfaenol sy’n nodweddu’r math hwn o system yw ei bod yn cynhesu’r dŵr poeth ar alw, hynny yw, dim ond pan fydd ei angen.
- Stôr thermol
Stôr thermol
Stôr thermol yw system anuniongyrchol sy’n storio gwres, nid dŵr poeth.
Mae dŵr oer o’r prif gyflenwad yn cael ei gynhesu’n syth wrth lifo drwy gyfnewidyddion gwres sydd wedi’u hamgáu mewn tanc dŵr poeth.
Mae’r gwres yn cael ei drosglwyddo o’r dŵr cynradd i’r dŵr oer ar alw.
Nid yw’n gyffredin ond caiff ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
- Boeler cyfun
Boeler cyfun
Boeler cyfun yw uned sy’n cynhesu dŵr ar alw heb storio dŵr poeth.
Mae’n defnyddio nwy neu olew i gynhesu dŵr wrth iddo lifo drwy gyfnewidydd gwres.
Nid oes angen seston nac unrhyw storfa dŵr poeth.
Mae’n fach a chryno, ac yn gwasanaethu dŵr poeth a gwres canolog – uned amlbwrpas.
- System Storfa
System Storfa
Mae amrywiaeth o wahanol systemau a chynlluniau yn perthyn i’r categori hwn. Yr egwyddor sylfaenol sy’n nodweddu’r math hwn o system yw ei bod yn storio dŵr poeth nes bydd ei angen i’w ddefnyddio.
- Systemau cyfun awyredig ‘Fortic’
Systemau cyfun awyredig ‘Fortic’
System Fortic yw silindr gyda’r seston wedi ei gyfuno fel rhan o’r uned wrth fod ar ben y silindr.
Mae’n cynnwys pibell bwydo a phibell fentio.
Wedi’i ddylunio ar gyfer adeiladau gyda lle cyfyngedig.
Gwasgedd isel – yn gwneud y system yn llai poblogaidd ac anghyffredin erbyn hyn.
- Preimatig
Preimatig
Silindr anuniongyrchol gyda chyflenwad sengl yw system preimatig.
Mae’n defnyddio swigen aer i wahanu’r dŵr cynradd ac eilaidd.
Risg uwch o halogi, felly ni ddylid ychwanegu atalydd i’r system.
Dim yn addas ar gyfer gosodiadau newydd – dylid defnyddio silindr dwy-sianel yn lle.
- Adennill cyflym
Adennill cyflym
Mae’n defnyddio cyfnewidydd gwres aml-goil i gynhesu dŵr yn gyflymach.
Mae’r arwynebedd ychwanegol yn cynyddu trosglwyddiad gwres.
Yn berffaith ar gyfer galw uchel neu angen ailgynhesu cyflym.
Yn fwy effeithlon na silindrau â un coil traddodiadol.
- Coil deuol
Coil deuol
Mae ganddo dau gyfnewidydd gwres (coil).
Y coil isaf yn cysylltu â boeler traddodiadol.
Y coil uchaf yn cysylltu â ffynhonnell adnewyddadwy (e.e. paneli solar).
Yn gallu defnyddio dwy ffynhonnell wres ar gyfer mwy o effeithlonrwydd.
- System wedi’i hawyru / wedi’i bwydo gan seston ddŵr
System wedi’i hawyru / wedi’i bwydo gan seston ddŵr
System gwasgedd isel sy’n defnyddio seston dŵr oer i fwydo’r silindr.
Mae pibell fentio agored yn caniatáu i bwysedd a gwres dianc yn ddiogel.
Gall fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Poblogaidd mewn adeiladau domestig oherwydd ei symlrwydd.
- System heb ei hawyru wedi’i bwydo o’r prif gyflenwad
System heb ei hawyru wedi’i bwydo o’r prif gyflenwad
System gwasgedd uchel sy’n cael ei fwydo’n uniongyrchol o’r prif gyflenwad (e.e. Dŵr Cymru).
Mae’r silindr wedi’i selio’n llwyr – dim pibell fentio na seston.
Mae’n darparu gwasgedd uchel cyson i bob allfa ddŵr poeth yn yr eiddo.
Angen cydrannau diogelwch fel falf T&P, falf wirio a phibell ymollwng.
Poblogaidd mewn adeiladau modern ac yn gallu darparu i sawl allfa ar yr un pryd.
- System Leoledig
System Leoledig
Systemau lleoledig yw systemau syml sy’n cynnwys cynhesydd dŵr, bach mewn maint sy’n defnyddio nwy neu, yn amlach, trydan, er mwyn darparu dŵr poeth yn uniongyrchol yn y man lle mae’r dŵr ei angen. Gelwir y cynhesyddion dŵr hyn yn systemau lleol gan eu bod wedi’u lleoli a’u gosod yn agos at yr offeryn neu’r allfa ddŵr poeth maent yn ei wasanaethu.
Fel arfer, mae’r systemau hyn yn gwasanaethu un offeryn neu un allfa ddŵr poeth yn unig (pwynt sengl), ond mewn rhai achosion gall system leol wasanaethu mwy nag un offeryn neu allfa ddŵr poeth (amlbwynt). Gall y systemau lleol hyn fod wedi eu awyru neu heb eu awyru.