Dogfen bwysig

Trwy gydol yr uned yma ac unrhyw waith a wnewch chi sy’n ymwneud a dŵr poeth, mae’n hanfodol i chi gyfeirio tuag at y ddogfen yma:

The Building Regulations 2010: Approved Document G

(Dogfen Gymeradwy G: glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac arbed dŵr. Ar gael yn uniaith Saesneg ar hyn o bryd.)

Hyd at 2010, dim ond dŵr poeth di-fent oedd yn cael ei gynnwys yn y rheoliadau. Ers 2010 mae dogfen ‘G3’ fel mae’n cael ei adnabod yn berthnasol ar gyfer pob system ddŵr poeth mewn anheddau domestig. Mae G3 wedi ei rannu i bedair rhan – defnyddiwch y ddolen uchod er mwyn darllen mwy am y bedair rhan.