Maen Prawf 1.1

Manteision ac anfanteision systemau dŵr poeth

 

Ffaith ddiddorol 

Ar safleoedd adeiladu, rhaid darparu dŵr poeth ar gyfer golchi dwylo. Nid moethusrwydd mo hwn! 

Mae’r Rheoliadau CDM 2015 (Atodlen 2) yn dweud bod yn rhaid cael “cyflenwad o ddŵr glân poeth ac oer, neu gynnes (sy’n rhaid bod yn ddŵr yn llifo cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol).” 

Pam? Oherwydd mae’n helpu i gadw’ch dwylo’n lân ar ôl trin cemegion neu faw, ac yn cadw’ch dwylo’n gynnes mewn tywydd oer sy’n helpu i atal problemau iechyd corfforol!  

Mae hyn hefyd yn rhan o ddyletswydd eich cyflogwr dan Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 i ofalu am eich llesiant.