Math o system

Mae’r math o system sy’n cael ei osod yn dibynnu ar nifer o ffactorau allweddol megis; math o dŷ/adeilad, nifer o ddeiliaid, nifer o stafelloedd, y galw ar y system ddŵr poeth. Mae’r adeilad a’r cyd–destun fel arfer yn dylanwadu ar ba system gaiff ei osod ond mae dealltwriaeth ddwfn, profiad, canllawiau a rheoliadau yn ein arwain i allu cynghori cwsmeriaid ar y system orau, mwyaf effeithiol ac effeithlon ar eu cyfer nhw.