Maen Prawf 1.2
Y mathau o bibellau nodweddiadol a ddefnyddir mewn systemau dŵr poeth mewn anheddau a’u maint
Mae maint y pibellau mewn systemau dŵr poeth yn dibynnu ar sawl ffactor megis cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, cyfradd llif, pwysau, math yr offer, defnydd yr offer, Rheoliadau Adeiladu, a’r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr). Mae dewis maint pibell priodol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod systemau’n gweithredu’n effeithlon ac yn ddiogel.
Fel arfer, y meintiau mwyaf cyffredin mewn eiddo domestig ar gyfer pibellau dŵr poeth yw 15mm, 22mm a 28mm. Defnyddir copr lled-galed fel y dewis safonol mewn llawer o osodiadau domestig, er bod pibellau plastig hefyd yn gyffredin, yn enwedig mewn adeiladau modern neu osodiadau sy’n galw am hyblygrwydd.
Mae safon Brydeinig BS EN 806-3 yn nodi’r egwyddorion ar gyfer dylunio systemau dŵr poeth gan gynnwys maintio pibellau. Yn ogystal, mae’r Canllaw Cydymffurfiaeth Gwasanaethau Adeiladu Domestig yn darparu gwybodaeth benodol ar ofynion adeiladu perthnasol.